Read about how two Media and Communications students have been educating others on the environmental impact of fast fashion. Ffion Jones and Carys Evans chose to spread awareness on this topic when tasked with creating a digital campaign as part of their Key Media Skills module last semester, as not enough media attention has been given to such a serious issue
Plastig, llygredd dŵr, cynhesu byd eang… rydyn ni gyd wedi clywed cymaint o wybodaeth am ba mor ddinistriol yw’r materion yma ynglŷn ag iechyd ein planed. Ond beth am ffasiwn brys, sef ‘fast fashion’?
Mae £140 miliwn o bunnoedd o ddillad yn cael eu taflu allan pob flwyddyn yn y Deyrnas Unedig, wrth i gwsmeriaid brynu gormod dros gyfnod byr ac wedyn eu twlu i’r tirlenwi yn lle eu hailgylchu. O ganlyniad, mae’r dillad yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr wrth iddynt ddirywio, sydd yn ychwanegu at gynhesu byd eang gan fod mwy o fethan a charbon deuocsid yn yr awyrgylch. Mae’r ddaear yn cael ei heffeithio hefyd, gan fod llawer o ddillad yn cael eu claddu wrth i ddiffyg safleodd tirlenwi gael eu achosi gan orlif o hen ddeunydd yn barod. Swnio’n arswydus, yn tydi? Dyna pam benderfynon ni amlygu ochr dywyll y diwydiant ffasiwn nad ydy pobl yn ymwybodol ohono.
Y cwestiwn cyntaf wrth gychwyn ar ein siwrne oedd: pwy yn union oeddem ni eisiau targedu? Gan ein bod yn ddwy ferch ein hunain, dewison ni dargedu merched o’r oedrannau 18-30 yn benodol gan fyddwn ni’n gallu uniaethu gyda’r gynulleidfa hynny’n hawdd ac mae’n nhw’n mwynhau ffasiwn. Ar ôl tipyn o ymchwil, darganfyddom ni mai Instagram, Twitter a Tiktok oedd y platfformau mwyaf addas ar gyfer cyrraedd ein cynulleidfa darged. Er taw pwnc trwm a difrifol yw ffasiwn brys, roedden ni eisiau creu cynnwys a oedd yn ysgafn, lliwgar a thrawiadol er mwyn dal sylw yn y ffordd fwyaf positif a chyffrous posib.
Penderfynon ni ar y cyd nid ein nod ni oedd gwneud i bobl deimlo’n euog am eu harferion ffasiwn brys. Felly i gymryd agwedd fwy ysgafn ond effeithiol, dewison ni greu cynnwys a oedd yn cynnig cymorth, adborth ac esiamplau am sut i wella arferion sy’n ychwanegu at y broblem; efallai rhai arferion nad yw pobl yn ymwybodol ohonynt. I wneud hyn yn llwyddiannus, roedd y ddwy ohonom ni wedi arbrofi’r dulliau wnaethom ni argymell i’n dilynwyr. Roedd hyn yn cynnwys siopa o frandiau ffasiwn foesegol , creu cwpwrdd dillad capsiwl a rhoi dillad diangen i elusennau lleol.
Wnaethom ni greu’r cynnwys hyn ar nifer o rwydweithiau cymdeithasol, ond yn lle ailadrodd postiadau addason ni’r cynnwys i estheteg y rhwydweithiau cymdeithasol penodol. Ar Instagram (https://www.instagram.com/ffasiwnbrys/) roedd ein postiadau yn fyr ac yn weledol, ble roedd modd ‘sweipio’ i’r dde am fwy o wybodaeth. Ar Twitter (https://www.instagram.com/ffasiwnbrys/) roeddwn ni’n rhyngweithio gyda chyfrifon ffasiwn foesegol ac yn eu rhannu i godi ymwybyddiaeth. Ar Tiktok (https://tiktok.com/@ffasiwnbrys) yr unig opsiwn oedd creu fideos. Felly, creasom ni fideos addysgiadol, mewn arddull adolygiad lle roeddem yn arbrofi gydag eitemau ffasiwn foesegol, ac yn olaf cynigion ni gyngor ar gyfer ein dilynwyr.
Roedd cynnwys ein rhwydweithiau cymdeithasol wedi profi i fod yn llwyddiannus, gyda dilynwyr yn cynyddu arnynt i gyd trwy gydol y tymor. Gofynnodd BBC Radio Cymru i’r ddwy ohonom gymryd rhan yn rhaglen Shan Cothi i drafod ein prosiect. Roedd hyn yn brofiad arbennig i’r ddwy ohonom ni fel myfyrwyr Cyfryngau a Chyfathrebu. Llwyddasom ni i godi ymwybyddiaeth am y broblem ffasiwn brys ac ar yr un pryd cyfoethogi ein profiad yn y diwydiant radio.
Ar y cyfan roedd y prosiect yma yn gyffrous iawn, ac oherwydd y prosiect yma llwyddodd y ddwy ohonom i ennill mewnwelediad dwfn i’r diwydiant yr ydym yn ceisio dilyn gyrfa ynddo. Roedd y prosiect yn bleser i gydweithio arno gyda’n gilydd ac roedd gweld y prosiect gorffenedig yn werthfawr iawn. Beth am fwrw golwg ar ein gwefan: Ffasiwn Brys: https://19056414.wixsite.com/ffasiwnbrys.