O Gaerfyrddin i Gaerdydd: Tom yr intern yn cychwyn ar Flwyddyn mewn Diwydiant / From Carmarthen to Cardiff: Intern Tom begins his Year in Industry

Yn lle dychwelyd ar gyfer ei drydedd flwyddyn, mae Tom Johnson eisoes wedi cychwyn ar ei flwyddyn o interniaeth gyda Media Academy Cymru / Rather than returning for his third year, Tom Johnson has already begun his year internship with Media Academy Cymru

Yn naturiol roeddwn yn nerfus yn symud i Gaerdydd ar gyfer lleoliad gwaith gyda Media Academy Cymru (MAC). Er ei fod awr i ffwrdd o gartref roedd yn brofiad hollol newydd i mi, gan mai dyna oedd y tro cyntaf imi adael cartref, a dyma hefyd oedd y tro cyntaf imi gael swydd lawn amser. Fodd bynnag, roeddwn yn gwybod ei fod yn gyfle gwych i mi gan y fod yn helpu fy ngyrfa ac y byddai hefyd yn fy natblygu fel unigolyn.

Yn gyntaf, pwy yw Media Academy Cymru? Mae Media Academy Cymru neu MAC,  yn sefydliad sy’n cefnogi pobl ifanc mewn sefyllfaeoedd anodd ac yn rhoi cyfleoedd iddynt fynd yn ôl ar y trywydd iawn. Ymgeisiais am interniaeth gydag MAC fel eu intern cyfathrebu/marchnata ar ôl gweld yn hysbyseb ar eu gwefan. Ar ôl mis o gyfathrebu gyda MAC, fe gytunwyd ar leoliad a dyddiad cychwyn, sef yr 11eg o Orffennaf, 2022.

Penderfynais symud i Gaerdydd ar yr 2il o Orffennaf gan y byddai’n caniatáu i mi ymgartrefu yn fy amgylchedd newydd. Cefais yr wythnos gyntaf yn heriol iawn gan nad oedd unrhyw WIFI na dodrefn yn ein fflat, felly roedd yn anodd setlo i mewn. Bryd hynny roedd fy nghyd-letywr eisoes wedi dechrau ar ei leoliad, felly roeddwn yn teimlo’n ddiflas ac yn hiraethu, ac yn wirioneddol bryderus fy mod wedi gwneud camgymeriad wrth symud i fyny i Gaerdydd. Penderfynais fynd adref y penwythnos cyn dechrau gweithio felly byddwn mewn gofod pen da ar fy niwrnod cyntaf.

Pan ddaeth diwrnod cyntaf fy lleoliad, roedd fy nerfau dan reolaeth (yn syndod), gan fy mod yn gwybod y byddai fy nghydweithwyr yn groesawgar, a byddent yn ceisio fy helpu i setlo i mewn. Cawsom gyfarfod staff y peth cyntaf ar y Dydd Llun ac roedd yn gwis fel math o dorri ia, fuodd o help i fi. Erbyn diwedd yr wythnos gyntaf, roeddwn eisoes yn gyfforddus gyda fy nghydweithwyr, gan y byddem yn cael sgyrsiau gwirioneddol yn hytrach na’r rhai cyffredinol a gefais ar ddechrau’r wythnos. Hefyd, erbyn diwedd yr wythnos roeddwn wedi cychwyn ar fy rôl fel yr intern cyfathrebu/marchnata.

O ran fy swydd, mae’n rôl syml iawn. Fy nghyfrifoldebau yw hysbysebu y gwasanaethau mae MAC yn cynnal, a hefyd hysbysebu unrhyw swyddi sydd ar gael. Ar ben hynny, rwy’n rhannu gwybodaeth ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol MAC yn ddyddiol. Dwi hefyd yn diweddarau gwefan MAC a dwi’n paratoi yr adroddiad blynyddol. Mae’n swydd sydd yn dod gyda phwysau, ond rydw i yn mwynhau’r rôl.

I gloi, o ysgrifennu hwn heddiw, rwyf wrth fy modd yn mynd i weithio bob dydd. Mae’r bobl yn hynod o gyfeillgar ac yn hwyl ac mae’r gwaith rwy’n ei wneud yn fy siwtio i. Rwyf hefyd wrth fy modd yn byw yng Nghaerdydd gan fod cymaint o bethau i’w gwneud. Byddwn yn argymell symud i ffwrdd i wneud lleoliad i unrhyw un sy’n ei ystyried. Byddwch yn cael y cyfle i gael profiad gwaith, profiad bywyd a chyflog byw, sydd bob amser yn braf ar ddiwedd pob mis.