Llwyddiannau graddedigion

Welsh medium Media and PR graduates have gone on to follow successful and varied careers in the media industry in Wales. Here three of those students Brengain Jones (Trainee Director at Cwmni Da) Osian Flaherty (Communications Officer at Transport Wales) and Sam Turton (self shooting assistant producer at Whisper TV) look back at their time studying with us and give a few words of advice for current students.

Mae graddedigion Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus y ddeng mlynedd diwethaf wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd llwyddiannus ac amrywiol ym myd y cyfryngau yng Nghymru. Yma mae tri o’r myfyrwyr hynny, Sam Turton, Brengain Jones ac Osian Flaherty, yn edrych yn ôl ar eu cyfnod yn astudio gyda ni.

BRENGAIN JONES

Teitl swydd nawr? Cyfarwyddwr dan hyfforddiant gyda Cwmni Da

Pa raglenni / prosiectau wyt ti’n gweithio arnyn nhw nawr? Dwi wedi gweithio ar amryw o raglenni, FFIT Cymru, Rybish, Deian a Loli ond bellach yn gwneud fy hyfforddiant ar Garddio a Mwy.

Beth nes ti fwynhau am astudio yn Abertawe? Roedd ’na lot i fwynhau am astudio yn Abertawe (gormod i enwi pob un!) ond yn bendant roedd y cymorth a gefais yn wych! Ddim yn unig hynny roedd y cyfleoedd ar gael hefyd yn wych, fel cael cyfle i weithio yn adran PR Y Scarlets, ac roedd digon o offer i gael gwneud gwaith ymarferol!

Beth oedd y prif beth ddysges ti ar y cwrs? Y prif beth (sydd dal yn cael ei ddefnyddio gen i heddiw) yw technegau camera, a sut i gynnal cyfweliad!

Unrhyw gyngor i fyfyrwyr cyfredol? Gwnewch y mwyaf o unrhyw gyfle sydd ar gael i chi! A gofynnwch am help, mae’r darlithwyr yna i helpu.

Brengain Jones

OSIAN FLAHERTY

Teitl swydd nawr? Swyddog Cyfathrebu ar gyfer Trafnidiaeth Cymru

Pa raglenni / prosiectau wyt ti’n gweithio arnyn nhw nawr? Ar hyn o bryd mae Gweithredu Diwydiannol a’r streiciau yn bwnc eithaf mawr o fewn byd y rheilffyrdd, fel y galwch ddychmygu! Fel tîm cyfathrebu rydym yn gweithio’n galed bob dydd i wneud yn siŵr ein bod yn dweud y pethau cywir i’n cwsmeriaid a’n cydweithwyr, gan gadw cydbwysedd rhwng cyfathrebu mewnol ac allanol. Yn bersonol, rydw i’n gyfrifol am wneud llawer o waith fideo ar gyfer y cwmni, boed yn cefnogi timau o fewn y busnes gyda fideo mewnol sydd yn targedu ein cydweithwyr, neu’n fideo sydd am gael ei defnyddio ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol er mwyn targedu cwsmeriaid.

Beth nes ti fwynhau am astudio yn Abertawe? Rydw i wir yn teimlo’n lwcus iawn i allu dweud fy mod i wedi astudio yn Abertawe. Fel rhywun nad oedd yn siŵr os oedd bywyd prifysgol i mi, gwnaeth Abertawe ddatblygu i fod yn benderfyniad gorau fy mywyd, a’r lle perffaith i mi. Nes i garu’r astudiaethau a’r swm enfawr o gyfleoedd sydd ar gael yno. Y peth pwysicaf ydy’r bobl a staff. Cefais gyfle anhygoel i astudio’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg, ac ers gwneud y penderfyniad yna, roeddwn i’n gwybod bod gen i gefnogaeth llawn adran sydd wir yn gofalu am eu myfyrwyr pob cam.

Beth oedd y prif beth ddysges ti ar y cwrs?  Roedd yr amrywiaeth o waith a phynciau yn anhygoel. Roedd pob modiwl yn wahanol i’r llall, a pob un yn cynnig sgiliau byd go iawn rydw i wedi cario gyda fi mewn i’r byd gwaith – rhywbeth rydw i’n pwysleisio gydag unrhyw fyfyrwyr rydw i’n siarad gyda nhw! O sgiliau rheoli argyfwng (Covid), rheoli gwefan, i sgiliau creu fideo, rydw i wedi defnyddio pob sgil ddysgais o fewn fy swydd ac yn ei briodoli i beth ddysgais yn y brifysgol.

Unrhyw gyngor i fyfyrwyr cyfredol? Mwynhau’r amser gymaint ag y gallwch, a cheisio amsugno gymaint o sgiliau o bob modiwl ac y gallwch. Mae’n swnio fel cyngor eithaf generig, ond gallai ddim pwysleisio pa mor lwcus rydw i’n teimlo wedi neud y cwrs wnes i, yn y brifysgol wnes i, a chael fy nysgu gan y bobl oedd o’m cwmpas. Dwi’n credu bod clywed mae rhywbeth yn mynd i fod yn dda ar gyfer eich dyfodol yn gallu neud i chi eisiau neud ‘eye roll’ fach weithiau oherwydd rydych yn fyfyrwyr ac mae’n rhywbeth chi’n clywed lot, ond wir – mae’r sgiliau rydych yn dysgu yn y brifysgol yn mynd i gael eu defnyddio mewn BYWYD GO IAWN! Mae e wedi agor siwt gymaint o ddrysau/cyfleoedd i mi o fewn fy swydd sydd falle ond yn rhywbeth galla i wneud oherwydd beth ddysgais i yno.

Gwyliwch fideo y bu Osian yn ei chreu: Mae Gen i Hawl

Osian Flaherty

SAM TURTON

Teitl swydd nawr? Is-gynhyrchydd gwaith camera annibynnol gyda Whisper TV

Pa raglenni / prosiectau wyt ti’n gweithio arnyn nhw nawr? Ar hyn o bryd rydw i’n paratoi i fynd mewn i gamp Rygbi Cymru ar gyfer y 6 Gwlad i ddilyn y tîm trwy eu hymgyrch. Rydw i hefyd yn gweithio ar ddarllediad yr Indigo Prem a rhaglen ddogfennol rygbi.

Beth nes ti fwynhau am astudio yn Abertawe? Fy hoff ran o astudio yn Abertawe oedd pa mor ddiddorol oedd y darlithoedd a’r darlithwyr. Os nad oedd diddordeb neu clem am y pwnc ar ddechrau modiwl, erbyn diwedd y cwrs roedd persbectif gwbl wahanol gyda ti!

Beth oedd y prif beth ddysges ti ar y cwrs? I fi y prif beth wnes i ddysgu ar y cwrs oedd sut i weithio dan amodau byd go iawn. Yn y diwydiant cyfryngau mae lot o’r gwaith yn ‘quick tunraround’ ac o dan bwysau. Wrth astudio Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus ges i flas o be fyddai hyn fel rhan o’r cwrs.

Unrhyw gyngor i fyfyrwyr cyfredol? Gwrandewch ar beth mae’ch tiwtoriaid yn dweud wrthoch chi. Go iawn, mae beth mae nhw’n dweud yn mynd i helpu chi lot yn y dyfodol.

Sam Turton