Llundain yn cynnig cyfle cyfathrebu a rygbi i Carys / London offers communication and rugby for Carys

Mae myfyrwraig trydydd blwyddyn, Carys Evans o Faesteg newydd orffen blwyddyn mewn diwydiant gyda McArthur Glen yn Llundain a’r cyfle i chwarae gyda Chlwb Rygbi Llundain a’r London Broncos…

Maesteg third year student Carys Evans has just finished a Year in Industry with McArthur Glen in London, and the opportunity to play with London Welsh and London Broncos rugby teams….

Ydych chi’n ystyried blwyddyn mewn diwydiant? Cewch amdani! Rwy’n falch iawn o fod wedi derbyn y cyfle gan Brifysgol Abertawe i gymryd blwyddyn mewn diwydiant. Mae’r cyfle ei hun yn un gwobrwyol ond mae’r cyfleoedd sy’n cuddio tu ôl yn gyffrous hefyd.

Wrth gwrs, nid yw’r broses i ennill interniaeth ar gyfer y flwyddyn yn un hawdd. Mae angen angerdd, gwytnwch a phenderfynoldeb arnoch chi oherwydd mae’r maes mor gystadleuol â’r byd go iawn.

Gair o gyngor gen i yw cymryd mantais gymaint ag y gallwch chi! Rwy’n ffodus iawn i allu dweud fy mod wedi cyflawni blwyddyn mewn diwydiant. Nid yn unig mae’n edrych yn wych ar bapur ond mae’r siwrnai wedi galluogi mi i ddatblygu fel gweithiwraig ac fel unigolyn.

O’n i’n angerddol iawn am symud tu fas i Gymru felly wnes i geisio am interniaethau ar draws y DU a hyd yn oed Seland Newydd! Ar ôl llawer o gyfweliadau a cheisiadau, roeddwn i’n llwyddiannus i sicrhau rôl gyda chwmni McArthurGlen yn eu prif swyddfa yn Llundain fel intern cyfathrebu. Rwyf wedi derbyn llawer o gyfleoedd o fewn a thu allan fy interniaeth megis teithio i’r Eidal ar gyfer ymgyrch, ysgrifennu erthyglau sy’n cael eu darparu yn rhyngwladol a chwrdd â phobl newydd ar draws y byd bob dydd.

Ond mae’n bwysig i gofio nid yw’r flwyddyn mewn diwydiant yn ffocysu ar y gweithle’n unig, ond hefyd ar yr elfennau bychan tu fas i’r gwaith sy’n cyfrannu at eich profiad cyfan.

Yn bersonol, mae’r cydbwysedd o weithio ac astudio yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol wedi wneud fy mhrofiad i yn 100% yn well a mwy gwerthfawr.

Rwy’n lwcus iawn fy mod i wedi gallu chware rygbi yn Llundain, hyd yn oed yn fwy lwcus i gynyrchioli Cymry Llundain wrth wneud. Roedd symud i Lundain ar fy mhen fy hun yn sicr yn gam mawr, efallai un nad oeddwn yn barod ar ei gyfer, rhaid cyfaddef. Fodd bynnag gwthio fy hun i ddod o hyd i Glwb Rygbi Cymry Llundain a dechrau hyfforddi gyda nhw oedd y penderfyniad gorau i mi ei wneud. Nid yn unig mae’n dîm gwych yn llawn talent rhagorol ond rwyf wedi gwneud ffrindiau am byth. Cymry Llundain oedd fy nghartref oddi cartref, mae’n nhw wedi fy helpu i ddod yn chwaraewr gwell a nhw oedd y teulu nad oeddwn i’n gwybod fy mod ei angen wrth fyw oddi cartref.

Mae cymaint o gyfleoedd yno tu hwnt i chwarae rygbi. Mae yna ganolbwynt gyrfaoedd, swyddogion lles a llawer o rolau yn y clwb sy’n cynnig profiad gwerthfawr. Ar ôl i mi orffen ym Mhrifysgol Abertawe rwy’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Gymry Llundain a hoffwn annog eraill i fentro yn yr un modd.

Rwyf hefyd yn falch iawn i ddweud fy mod wedi cael cyfle i chwarae lefel uwch o rygbi’r gynghrair ar gyfer clwb proffesiynnol y London Broncos. Dyma’r tymor cyntaf i mi erioed chwarae rygbi’r gynghrair ond rwy’n edrych ymlaen i barhau  i chwarae yn y dyfodol ac yn gwerthfawrogi fy amser gyda’r tîm yn fawr iawn.