Students on set / Myfyrwyr yn rhoi gwersi ar waith’

Over the summer first year students were offered an opportunity to join Octagon Content on a drama pilot set in Cardiff titled BWMP. This offered students a chance to apply their learning beyond class, an experience facilitated by senior lecturer Non Vaughan Williams, the Swansea University Employability Academy and Media and Communication Industry Panel member, Steffan Rhys Thomas, MD of Octagon Content. This article highlights the experiences enjoyed by two students, Ffion Jones and Jessica Cooper, and insight from Steffan himself. You can watch BWMP on I-player and S4C clic on 16/11/23. A linear broadcast can be viewed on S4C at 10:45pm on the 16/11.

Mae cyfleoedd i droi profiadau’r dosbarth yn rhai go iawn yn y gweithle yn werthfawr dros ben i fyfyrwyr, a dyna ddigwyddodd ar set y ddrama BWMP dros yr haf.

Peilot comedi newydd yw BWMP a gomisiynwyd gan S4C, a ysgrifennwyd gan Ciaran Fitzgerald, awdur ifanc o Bort Talbot, a aned â Cerebral Palsy. Mae rhan fwyaf o waith ysgrifennu Ciaran yn seiliedig ar ei brofiad bywyd ei hun o fyw gydag anabledd. Mae’r bennod yn gymysgedd o ddrama a chomedi ac mae’n canolbwyntio ar Daisy, newyddiadurwraig ifanc anabl sy’n gwneud ei ffordd drwy’r heriau a’r anfanteision o weithio o fewn i ddiwydiant ‘abelist’. Hon hefyd yw’r rhaglen deledu gyntaf wedi’i sgriptio yn yr iaith Gymraeg i gynnwys actores anabl mewn rôl arweiniol.

Rheolwr gyfarwyddwr cwmni Octagon Content yw Steffan Rhys Thomas, ‘Ar ôl gweithio gyda’r brifysgol ar brosiect digidol i frand Hansh S4C yn 2020, roedd hi’n naturiol ein bod ni’n parhau i gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr, yn enwedig i’r rhai sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.’ Dwy o’r myfyrwyr hynny oedd Ffion Jones a Jessica Cooper a dyma oedd eu hargraffiadau nhw:

Ffion: Ar ddechrau’r haf, cafais i’r cyfle i helpu tîm gynhyrchu Octagon am ddeuddydd tra’n ffilmio’r peilot ar gyfer cyfres newydd S4C. Gan fy mod i wedi bod yn actor cefndirol mewn sioe deledu fach iawn o’r blaen, roedd hi’n braf gweld sut roedd popeth yn gweithio ochr arall y camera. Uchafbwynt yr holl brofiad oedd gweld sut mae golygfa 10 eiliad ar y teledu yn gallu cymryd tua 2 awr i ffilmio. Roedd pob aelod o dîm Octagon yn gyfeillgar, yn hapus i siarad ac ateb unrhyw gwestiynau oedd gennym. Dysgais am bob elfen o ffilmio o fewn y cynhyrchiad hwn (gan gynnwys pris pob eitem o offer!!). Roedd y profiad hwn yn un gwerthfawr gan fy mod i’n gallu dweud yn union pa elfen rydw eisiau mynd mewn iddo os byddaf yn dewis y llwybr ffilm a theledu ar gyfer y dyfodol. Diolch i dîm Octagon a rydw i methu aros i weld y darn gorffenedig!

Ffion

Jessica: Roedd y profiad gwaith gydag Octagon content o fantais enfawr i mi yn bersonol, cefais y cyfle i gryfhau fy nealltwriaeth o sut mae pethau’n gweithio ar set, ac ehangu ar yr hyfforddiant dwi eisoes wedi’i ddysgu yn y Brifysgol.

Rhai o’r uchafbwyntiau’r profiad hwn, oedd: 

  • Cael ein gweld fel rhan o’r criw, er enghraifft, ymddiriedwyd ynom i gymryd cyfrifoldebau ar draws y cynhyrchiad oedd yn wirioneddol bwysig at y broses ffilmio. 
  • Y siawns i fod yn actores gefndir
  • Datblygu cysylltiadau/ffrindiau newydd sy’n ymwneud â’r diwydiant ffilm a theledu. 
  • Golwg uniongyrchol i mewn i’r broses o sefydlu a saethu golygfa. 

Wnaeth y profiad hwn bendant rhoi gwell syniad i mi o’r hyn yr hoffwn ei wneud yn y dyfodol. Swydd o’n i heb ei hystyried cyn y profiad oedd ‘ffotograffydd lluniau llonydd’ (Still photographer), a chefais ganiatâd y ffotograffydd ar set i ddefnyddio ei offer ac i brofi’r rôl i fy hun. 

Jessica

Nododd Steffan, ‘Fel cwmni creadigol ifanc, teimlwn ei bod yn bwysig meithrin talent y dyfodol a rhoi cipolwg i fyfyrwyr ar y rôlau niferus ac amrywiol a allai fod ar gael iddynt ar ôl graddio. Mae’r berthynas yma â’r brifysgol yn ein galluogi ni fel cwmni i gael mynediad i gronfa o dalentau’r dyfodol ac yn ein galluogi ni i rhannu gwybodaeth â’n gilydd ar y datblygiadau cyfnewidiol sy’n digwydd ym maes darlledu a chynnwys.’

PRYD? Bydd BWMP i’w weld ar I-player ac S4C clic ar 16/11/23. Bydd darllediad llinol ar S4C ar yr un diwrnod am 10:45pm.