CYFLEOEDD CAI A NICOLE

This is an article about the Coleg Cymraeg’s scholarship scheme which supports students wishing to study through the medium of Welsh. Nicole Davies and Cai Thomas are second year students who have received scholarships and they share their experiences of Welsh medium modules.

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn hyrwyddo ac yn hybu addysg Gymraeg mewn Prifysgolion ar draws amrediad eang o bynciau. Un o’r ffyrdd mae’n nhw’n neud hynny yw cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr bob blwyddyn er mwyn eu hannog a’u cefnogi nhw i astudio rhan o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn 2020-21 mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig Ysgoloriaeth Cymhelliant o £1,500 ar draws tair blynedd (sef £500 bob blwyddyn) os yw myfyrwyr yn astudio o leiaf 40 credyd (2 fodiwl) trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Abertawe yn un o’r pynciau lle mae modd astudio mwy na 40 credyd ym mhob blwyddyn, a dyna y mae dau o fyfyrwyr yr Adran Cyfryngau a Chyfathrebu, Cai Thomas a Nicole Davies yn ei wneud ar hyn o bryd gyda chefnogaeth ariannol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Darllenwch ymlaen er mwyn clywed am eu profiadau a pham eu bod nhw’n manteisio ar y cyfle i feithrin sgiliau dwyieithog allweddol sy’n ddeniadol iawn i gyflogwyr yn y diwydiant Cyfryngau yng Nghymru.

Felly beth wnaeth ddenu chi eich dau at Brifysgol Abertawe yn y lle cynta?

N: Fe wnes i benderfynu dilyn y radd ym Mhrifysgol Abertawe oherwydd bod yr adran yn un o’r deg uchaf yn y Deyrnas Unedig. Es i’r diwrnod agored a darganfod bod gyfleoedd profiad gwaith ar gael trwy gydol y cwrs, wnaeth hyn wir apelio ata’i. 

C: Fel bachgen lleol yn tyfu lan yn Abertawe, rwyf wastad wedi bod yn ymwybodol o’r safon uchel mae’r Brifysgol Abertawe yn ei gynnal. Mae’n gallu fod yn galed i ddewis y cwrs a’r brifysgol iawn, ond wrth edrych yn gyson fe wnaeth Abertawe amlygu ei hun ac rwy’n gallu aros yn agos i gartref hefyd!

Nicole

Pam dilyn modiwlau cyfrwng Cymraeg?

N: O’n i am gadw gafael ar yr iaith. Wnes i ran fwyaf o fy lefelau A trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd felly roeddwn yn awyddus i barhau â hyn. 

C: Yn wreiddiol ni chefais unrhyw ddiddordeb mewn modiwlau Cymraeg, ond o’n i yn teimlo fy mod i’n dechrau colli fy iaith yn araf wrth adael ysgol a theimlo fel doedd neb i siarad Cymraeg efo. Er fy mod yn teimlo yn bennaf ei fod yn gyfle gwych i ymarfer a gwella fy Nghymraeg daeth yn amlwg i fi’r manteision gwych a fyddai’n dilyn o’r penderfyniad.

Felly beth yw’r manteision?

N: Mae yna lawer o fanteision i astudio trwy’r Gymraeg, mae bod yn rhan o ddosbarthiadau llai yn wych oherwydd mae pob darlith yn teimlo fel seminar, mae’n ffordd llawer yn rhwyddach o ddod i adnabod y darlithwyr. Mae hefyd yna lawer fwy o gyfleoedd profiad gwaith ar gael, roeddwn yn ffodus iawn o gael profiad gwaith yn adran marchnata’r Scarlets yn fy mlwyddyn gyntaf. 

C: Yn fy marn i, mae yna lawer o fanteision o ddilyn modiwlau cyfrwng Cymraeg. Un fantais sydd yn amlygu ei hun i fi yw’r maint o waith unigol gallech gael gyda’r tiwtoriaid. Oherwydd y maint bach y dosbarthiadau, mae’n mor hawdd i siarad neu weithio efo’r tiwtoriaid neu fyfyrwyr eraill. Hefyd, trwy astudio yn gyfrwng Cymraeg mae’n agor cymaint o ddrysau profiad gwaith neu swyddi go iawn!

Beth y’ch chi’n fwynhau fwyaf am eich cwrs gradd?

N: Y ffaith ein bod yn gallu estyn allan i bobl mewn diwydiant trwy gydol y cwrs. Mewn cwpwl o fodiwlau roedd angen i mi wneud pitch i bobl mewn diwydiant, roedd hyn yn rhywbeth gwych oherwydd roeddwn yn cael blas o fywyd ar ôl prifysgol.

C: Mae cyfryngau yn bwnc fi wastad wedi mwynhau felly mae’r cyfle i astudio’r pwnc fel gradd yn ffantastig! Mae gen i ddiddordeb mewn gwahanol agweddau, er enghraifft y rhannau mwy theoretig ar gyfryngau cymdeithasol, neu’r gwaith ymarferol gan fynd allan i ffilmio neu recordio. Yn fy marn i, y rhannau ymarferol sy’n rhoi’r pleser mwyaf gan fod yna lawer o ryddid creadigol. Mae’n rhoi profiadau i fi sydd yn teimlo yn fuddiol iawn er mwyn parhau gyda gyrfa yn y diwydiant cyfryngau.

Cai

Pa fodiwl sydd wedi eich diddori fwyaf hyd yma?

N: Creu Testunau Newyddion Ar-lein oherwydd dysgais sut i greu blog a hefyd creu pitch i rywun mewn diwydiant. Roedd y blog, Rygbi Iddi Hi yn llwyddiannus iawn a dwi dal yn cael pobl ymweld â’r safle.

C: Un rhan o fy ngradd o’n i byth wedi ystyried o ddifri cyn mynychu’r brifysgol oedd cysylltiadau cyhoeddus (PR), ond ers fy mlwyddyn gyntaf mae wedi sefyll allan bob tymor. Hefyd, trwy astudio trwy gyfrwng y Gymraeg rwyf wedi cael mwy o opsiynau wrth ddewis modiwlau.

A beth am y dyfodol?

N: Y nod yn y dyfodol ar ôl graddio yw cael swydd mewn adran PR a gobeithio gweithio gyda chwmnïau dwyieithog, i gadw’r iaith yn fyw. 

C: Mae’n galed iawn i ddweud ble fyddai yn mynd gyda fy mywyd yn y dyfodol. Dwi’n hoffi’r syniad o gadw fy opsiynau yn agored i weld ble mae bywyd yn arwain fi. Er hyn, mae gen i nod i weithio yn y diwydiant teledu neu radio. Dwi hefyd yn ystyried gwneud cwrs ôl-raddedig yn y maes. Felly, oes master plan gyda fi? Na i ddweud y gwir, ond mae yna fras gynllun sy’n mynd i’r cyfeiriad cywir.

Os hoffech chi gael profiadau a chyfle i feithrin eich sgiliau fel Cai a Nicole cofiwch fanteisio ar y cyfle arbennig hwn am Ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. I ddarganfod mwy am y modiwlau Cyfryngau a Chyfathrebu cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe cysylltwch â: Dr Elain Price.