Sut gall pobl ifainc Cymru ddatrus yr argyfwng hinsawdd? Cam wrth gam.

While listening to the variety of discussions that took place during the Hillary Rodham Clinton Global Summit Challenge, third-year Media and Communications student Ffion Jones reflects on the steps young people in Wales can take to help effect change.

Yn ôl Gina McCarthy, cynghorydd hinsawdd cenedlaethol cyntaf y Tŷ Gwyn dan y Llywydd Joe Biden, mae cymryd camau pendant i leihau allyriadau carbon yn cynnig cyfle gwych i wledydd i ddatblygu cyfleoedd i greu swyddi ac isadeiledd a allai fod o fudd i’r blaned.

Nodwyd yn y drafodaeth ‘Towards Carbon Zero’ byddai cymryd cyfeiriad newydd yn effeithio ar agweddau eraill o fywyd yn ogystal â chynhesu byd-eang, megis problemau ynglŷn ag iechyd y genhedlaeth newydd, rhoi cyfle i fuddsoddi mewn swyddi gwyrdd, ac mae hefyd yn rhoi cyfle i ddemocrateiddio’r modd y mae’r byd yn delio gyda chynnydd yng ngwres y blaned.

Fodd bynnag, mae maint y broblem yn medru ymddangos yn anorchfygol, ac mae’n anodd gwybod beth allwn ni fel unigolion ei wneud – a oes modd i ni fel pobl ifainc yng Nghymru wneud gwahaniaeth?

Yn ôl Renata Koch Alvarenga, cyfarwyddwr EmpoderaClima, a gweithredwraig hinsawdd, mae’n ofynnol i bob un ohonom, boed ‘yn city hall neu congress’  chwarae ein rhan. Roedd Ysgolheigion Sky, mewn trafodaeth yn dilyn cyflwyniad Alvarenga, yn cytuno. Soniwyd bod camau pendant eisoes ar waith mewn rhai gwledydd, megis cynnwys gwersi ar iechyd meddwl o fewn y cwricwlwm mewn ysgolion i sicrhau bod y genhedlaeth newydd wedi ei harfogi i ddelio gyda’r her o oresgyn newid hinsawdd.

Roeddent hefyd o’r farn bod angen i ni gyd to ‘step up to the challenge – give one hundred percent even if you feel disadvantaged, run for office! Everyone can make a change!’ Roeddent yn pwysleisio sut allai pobl ifanc helpu gyda’r argyfwng hinsawdd rydym yn wynebu heddiw. Yn fras, eu coedd i fod yn weithredol, i gymryd rhan a chreu newidiadau ar lefel lleol a byd-eang. Yn ogystal â hyn, dylen ni rymuso gweithredwyr ifainc eraill, gan fod angen i bawb i wneud beth maen nhw’n gallu i effeithio ar y byd mewn ffordd bositif.

Llynedd, fe wnes i a myfyrwraig arall – Carys Evans – greu prosiect aml-blatfform a oedd yn seiliedig ar yr amgylchedd. Dewison ni i ffocysu ar ffasiwn brys (fast fashion), gan nad oedd digon o gyhoeddusrwydd am y mater. Yn ein barn ni, mae hyn yn bwnc cyfoes gall pobl ifanc fod yn rhan ohono’n hawdd, gan ein bod yn prynu gormodedd o ddillad fel cenhedlaeth yn oes y dylanwadwyr ar-lein. Os yw pobl ifainc eisiau cymryd camau bach i wella’r blaned, mae lleihau’r faint o ddillad rydym yn prynu a thaflu pob flwyddyn yn le ardderchog i ddechrau.

Fel dywed Renata Koch Alvarenga, mae yna nifer o ffyrdd eraill i bobl ifanc i gymryd rhan, ac nid dim ond drwy brotestio a mynychu cynadleddau mae modd siapio polisïau.

Pa bynnag achos rydych chi’n dewis i sefyll drosto, cofiwch fod pob cam yn cyfri a gallwn greu newid drwy weithio gyda’n gilydd fel cymdeithas unedig ar draws y byd i gyd.