Mae myfyrwyr wedi bod yn pitcho eu syniadau i gynrychiolwyr diwydiant drachefn. Students have once again been pitching their ideas to industry representatives
As a Media and Communications department, we work closely with industry to ensure that we are teaching the most relevant and contemporary theories, themes and skills, enabling our students to quickly and smoothly transition from university to the world of work. This collaboration with a range of industry contacts even extends to the joint development of module assessment, so that they mirror as closely as possible the sorts of tasks that graduates are likely to encounter as employees. Industry representative involvement raises the bar for students and challenges them to move out of their comfort zone. Our experience is that and they respond accordingly and produce work of a high often almost professional standard.
This article by our own Non Vaughan Williams outlines the experience of inviting industry representatives to assist staff with assessments, specifically pitch assessments on practice modules. Such assessments are referred to as “authentic assessments”, since they strive to replicate industry demands and practices. Rhian Jones (News Editor BBC Cymru Fyw) and Rachel Evans (independent producer and a member of the department’s industry panel) joined us to hear some of our students’ ideas. Second-year student Nicole Davies pitched her women’s rugby newsletter, Rygbi Iddi Hi (translated Rugby for Her) while third-year student Cai Rhys explained his online crime drama series Colled (translated Loss), along with VR and social media platforms.
Mae gwneud y cam o fyd addysg i fyd gwaith yn dipyn o gam, felly po fwyaf o gyfleodd sydd gan fyfyrwyr i ymwneud gyda’r byd hwnnw tra’u bod yn astudio y gorau. Yn ystod eu hail a’u trydedd flwyddyn mae myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yr adran Cyfryngau a Chyfathrebu yn cael cyfle i pitcho eu syniadau i gynrychiolydd diwydiant. Caiff y math hwn o asesu sy’n efelychu gofynion diwydiant ei ddynodi fel asesu gwirioneddol.
Y ddwy sydd wedi dychwelyd am yr eildro i ymgymryd â’r dasg o asesu ar y cyd â staff yw Rhian Jones, Golygydd Newyddion BBC Cymru Fyw a Rachel Evans, cynhyrchydd annibynnol ac aelod o banel diwydiant yr adran. Yn ôl Rachel, “mae’n hollbwysig bod myfyrwyr yn derbyn profiad real a realistig o sefyllfaoedd cyffredin o fewn y diwydiant yn ystod eu hamser yn y Brifysgol”. Felly beth sydd wedi denu’r ddwy i ymgymryd â’r gwaith hwn drachefn? Yn ôl Rhian, “Wrth gyd-asesu mae’n gyfle nid yn unig i gwrdd gyda myfyrwyr ond hefyd gweld pa faterion cyfredol sydd mor bwysig iddyn nhw fel bod nhw yn mynd ati i greu cynnwys.” Cafodd y cyfle i wrando ar fyfyrwyr yn pitcho eu gwefannau newyddion aml-gyfrwng, ar gynnwys megis menywod yn y cyfryngau ac ar figaniaeth, “Mae’n gyfle euraidd hefyd i fynd allan o’r swyddfa am ychydig oriau a thrafod gyda academyddion am y byd a’i bethau. Rwy’n teimlo hi’n fraint i gael profiad fel hyn, dwi’n nerfus hefyd dros y myfyrwyr ac yn teimlo pwysau i roi gwrandawiad teg i bob un.”
Un o’r rheiny a gafodd wrandawiad teg ganddi oedd Nicole Davies, “Mae cael rhywun o ddiwydiant i ddod mewn i asesu yn ffordd ddiddorol a gwahanol o asesu.” Derbyniodd ei pitch ‘Rygbi Iddi Hi’ sef newyddlen am rygbi merched ganmoliaeth uchel, “Wrth weld wyneb newydd wrth i mi gyflwyno fy ngwaith roeddwn wir wedi cael fy annog i wneud yn dda, er mwyn creu argraff dda ar y person newydd yma.”
Mae Cai Rhys, myfyriwr trydedd blwyddyn yn gallu uniaethu â hynny, “Mae’r ffaith eu bod nhw o’r diwydiant yn gwneud i mi weithio yn galetach ar gyflwyniad fy mhrosiect drwy ganolbwyntio ar edrychiad fy ngwaith ac anelu iddo fod yr un safon â gwaith proffesiynol y mae’n nhw’n gyfarwydd ag ef.”
Yn ôl Rhian mae darparu cyfle i fyfyrwyr gyflwyno gwaith, gwylio yr ymateb a chael adborth mewn awyrgylch sydd yn gefnogol yn amhrisiadwy. Er ei bod yn gwerthfawrogi y gallai myfyrwyr fod yn nerfus, cred bod cael cyfle i sefyll o flaen rhywun i gyflwyno gwaith yn brofiad arbennig ac yn ehangu sawl sgil, hyder, hunan asesu, perswadio a siarad cyhoeddus. Nododd Cai bod derbyn adborth yn fanteisiol iawn o ran sut i wella unrhyw brosiect, ond yn bennaf o ran disgwyliadau ar brosiectau yn y dyfodol. Pitcho syniadau am gynyrchiadau aml-blatfform fu Cai a’i gyd-fyfyrwyr, a chred Rachel Evans bod asesiad o’r fath yn gwbl addas. “Wrth gyflwyno syniad ar ffurf pitch, mae modd hogi siliau ymarferol gwerthfawr iawn sef pwysigrwydd paratoi trylwyr, datblygu syniadau gafaelgar ac uchelgeisiol a dechrau meddwl am bob agwedd ar gynhyrchu cynnwys – o’r gyllideb i’r staffio.’
Bu Cai yn pitcho ei ddrama drosedd ‘Colled’, syniad sy’n cyfuno drama ar-lein gydag elfen realiti rhith-wir, presenoldeb ar rwydweithiau cymdeithasol a gwefan.
I fi, fel aelod o staff mae agor y drws i aelodau o ddiwydiant i gydweithio ar agweddau o asesu yn herio myfyrwyr ac yn fodd o sicrhau eu bod, wedi iddynt radio, yn fwy na pharod i wynebu diwydiant. I Rachel, fel aelod o’r diwydiant hwnnw, mae wir yn ddefnyddiol cael argraff glir o fedr a diddordebau myfyrwyr ar drothwy eu gyrfaoedd yn y diwydiant. I’r myfyrwyr, fel mae Cai yn nodi, “Mae cael aelod o’r dwydiant i ddod mewn i wrando ar eich syniad yn brofiad heriol ond bythgofiadwy.”