Summer Graduation 2025: Rhagoriaeth a dathlu / Excellence and celebration!

Wrth i ni gychwyn blwyddyn academaidd arall ac edrych ymlaen i groesawu myfyrwyr Cyfryngau a Chyfathrebu, mae’n hyfryd cael edrych yn ôl a dathlu llwyddiant ein myfyrwyr a raddiodd yn ystod yr Haf. Gaethon ni fel staff ddiwrnod da o ddathlu hefyd! 

As we begin another academic year and look forward to welcoming students to Media and Communication, it’s good to reminisce about our students who graduated during the Summer. As staff we had a great day celebrating their success! 

Bob blwyddyn mae’r adran yn dathlu rhagoriaeth gyda tair gwobr sy’n cael eu cefnogi gan aelodau o Banel Diwydiant y Cyfryngau a Chyfathrebu, a’u cwmniau. Eleni Josh Freeman oedd derbynnydd y wobr Saesneg am ei berfformiad rhagorol, roedd y wobr wedi ei chefnogi gan gwmni sydd wedi eu lleoli yn Abertawe sef Re-think PR, a’i hwyluso gan Jenny Harding sy’n aelod o’r panel. 

Every year the department celebrates excellence with three prizes which are kindly supported by members of the Media and Communication Industry Panel and their respective companies. This year Josh Freeman was the recipient of the English medium award for his outstanding performance, supported by Swansea based Re-think PR and facilitated by panel member Jenny Harding. 

Derbyniodd Ryan Yang Wobr Dinasyddiaeth am ei gefnogaeth a’i frwdfrydedd parhaus dros yr adran. Cefnogwyd y wobr hon gan yr aelod panel Ffion Rees, Cyfarwyddwr Telesgop sydd wedi eu lleoli yn Stiwdios Bae Abertawe. 

Ryan Yang was awarded with the Citizenship Award for his unwavering support and enthusiasm for the department. This award was supported by panel member Ffion Rees, MD of Telesgop who are based in Swansea Bay Studios.  

 

Rafi Ronconi-Woollard oedd derbynnydd y wobr cyfrwng Cymraeg am ei rhagoriaeth. Cafodd y wobr ei hwyluso gan Rachel Evans o Boom TV sydd wedi bod yn aelod o’r Panel ers nifer o flynyddoedd. 

Rafi Ronconi-Woollard was the recipient of the Welsh medium award for her excellence. The award was facilitated by long-serving panel member Rachel Evans, from Boom TV. 

Dyma Rafi yn derbyn ei gwobr gan yr arweinwyr pwnc Iwan Williams a Dr Leighton Evans. Pan gafodd  llun hwn ei dynnu, roedd Rafi newydd gael cynnig swydd fel ymchwilydd gyda Kailash Films o Gaerdydd, i weithio ar gynhyrchiad Channel 4. Llongyfarchiadau Rafi! 

Rafi receiving her award from subject leads Iwan Williams and Dr Leighton Evans. When this picture was taken Rafi, had just secured a post as a researcher with Cardiff-based Kailash Films working on a Channel 4 production. Llongyfarchiadau Rafi! 

Fel adran rydym yn ffodus iawn o gefnogaeth cynrychiolwyr diwydiant nid yn unig i’r gwobrwyon rhagoriaeth, ond am eu cyngor a’u cymorth trwy gydol y flwyddyn.  

As a subject area, we are extremely fortunate of the industry representative’s support, not only for the excellence prizes, but for their advice and help throughout the year.