Some media content is a natural part of life in Britain and in Wales such as The Archers, Coronation Street and of course Pobol y Cwm! But beyond these long-running soaps there is Caniadaeth y Cysegr, the longest running Welsh language radio series which began in 1949, and to this day devotes itself to congregational hymn singing. Our own Non Vaughan Williams has produced the programme in the past, recording in chapels across Wales, but during September, Non’s voice can be heard fronting the programme on BBC Radio Cymru. Here Non explains how the pandemic has led to new means of production.
Fel llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol gyda dyfodiad y pandemig symudwyd gweithgaredd capeli ac eglwysi yn wasanaethau ar-lein. O’r herwydd collwyd y cyfle i gyd-ganu, sy’n agwedd y mae cymaint yn ei mwynhau mewn gwasanaeth. Ac er bod nifer yn mwynhau gwrando ar recordiad o emyn a chanu’n dawel fach dros zoom (gan anghofio tawelu’r meic!), dyw hynny ddim cweit yr un peth â sefyll ochr yn ochr ag aelodau eraill. Collwyd hefyd gyfle i’r cymanfaoedd a’r rihyrsals gael eu cynnal a’r fraint i dîm cynhyrchu Cwmni Parrog gael crwydro’r wlad yn recordio ar gyfer Caniadaeth y Cysegr a chymdeithasau dros baned yn y festri.
Arweiniodd hynny at ddull ychydig yn wahanol o gynhyrchu, a bu’n rhaid i Ceri Wyn Richards, prif gynhyrchydd y gyfres fynd ati i greu gan ddefnyddio archif y gyfres, archif y bu hi ei hun yn ddiwyd yn ei chrynhoi trwy sicrhau recordiad o bob emyn yn llyfr emynau Caneuon Ffydd. Aeth ati ymhellach i wahodd cyflwynwyr gwahanol at y meic i gyflwyno’r darnau llafar rhwng yr emynau – a braf dweud bod nifer o`r rheini`n ferched, rhywbeth a fu`n brin yn nhraddoiad y gyfres. Derbyniais innau’r gwahoddiad i gyflwyno pedair rhaglen ar thema dathlu, er enghraifft, dathlu canmlwyddiant y Caniedydd Cynulleidfaol Newydd, a thrwy gynnal y pellter angenrheidiol o ddwy fetr aed ati un dydd Sadwrn ym mis Awst. Yr her fwyaf oedd ceisio peidio â chyffwrdd yn yr offer recordio (camp ynddo’i hun i gynhyrchydd radio wrth reddf!) a hynny yn festri’r Tabernacl ar yr Ais yng Nghaerdydd. Mae’r Ais wrth gwrs yn lleoliad sy’n gynnwrf i gyd ar fore Sadwrn, ac yn y diwedd gorfodwyd ni i chwilio am dawelwch yn y capel ei hun rhag y buskers a phrotest swnllyd. Crefft cyflwynydd da yw ceisio siarad yn naturiol gyda’i gynulleidfa, ac mae hyn yn dipyn o her i ddarlithydd fel fi. Ond gyda help Ceri, llwyddais i siarad gyda’r gwrandäwr – a dyna’r gyfrinach wrth gwrs, cyfrwng agos atoch a gaiff ei gario ar y tonfeddi.
Er bod yr arfer o fynychu capel neu eglwys wedi dirywio dros y blynyddoedd sy’n arwain at gryn her i gwmni cynhyrchu, mae yna gynulleidfa driw i Caniadaeth y Cysegr. Mae darparu cyfle i’r gynulleidfa gartref gael clywed trefniannau pedwar llais ein traddodiad emynyddol wedi bod yn rhan bwysig o’r arlwy gyson ar y radio yng Nghymru ers y pedwardegau, ac mewn cyfnod pandemig a’i gyfyngiadau mae sicrhau parhad hynny yn narpariaeth BBC Radio Cymru yn bwysig dros ben. Rwyf innau’n falch o allu cyfrannu at y gwaith hwnnw.
Gallwch wrando ar Caniadaeth y Cysegr ar BBC Radio Cymru ar fore Sul am 7.30am ac ail-ddarllediad ar brynhawn Sul am 4.30pm. Mae’r cyfan hefyd ar gael ar BBC Sounds.