Dathlu dyfodol chwaraeon menywod yng Nghymru / Celebrating the future of women’s sport in Wales

Second year students Megan Beasely and Erin Williams share their experience

‘Fel merch’ was an event organised by the league of youth, Urdd Gobaith Cymru, to bring young girls together from across Wales to celebrate women in sport and give them opportunities to try new things coach.

and hear from professionals in the field. The host for the day was Heledd Anna who works as a presenter and commentator she was joined by a panel which included Rhian Wilkinson, Wales women’s football.

Yn ystod ein hamser yn ymweld a chymryd rhan yn nigwyddiad yr Urdd, mi wnaethom ni gynnwys ein hunain mewn amrywiaeth fawr o weithgareddau a sgyrsiau diddorol am iechyd menywod. Yn ogystal, roedd gweithgareddau fel bocsio, calisthenics a gweithdy maeth wedi newid ein persbectif ni a nifer o unigolion ifanc ar sut mae edrych ar ôl ein corff. Roedd yn amlwg hefyd bod gan ferched y gallu i wneud unrhyw chwaraeon maen nhw eisiau heb fod yn ofnus neu yn swil o’r canlyniadau. Anafiadau fel cyfergydau, oedd y prif bwnc o fewn un o’r trafodaethau’r diwrnod, lle dysgon ni am y gwahaniaethau pwysig sydd rhwng anafiadau menywod a rhai dynion, yn cynnwys y ffeithiau ysgytwol am anafiadau i’r fron.

Roedd y sgwrs am ein misglwyfau misol wedi cael effaith positif iawn ar bob menyw’r diwrnod hwnnw hefyd, oherwydd roedd nawr gennym ni fwy o wybodaeth dwfn ar sut a pham mae’n effeithio ni o fewn chwaraeon ac o ddydd i ddydd.

Roedd y diwrnod llawn gwesteion arbennig yn rhannu eu profiadau ac ateb cwestiynau gan Heledd a’r gynulleidfa. Dechreuon ni’r diwrnod yn gwrando ar sgwrs rhwng Heledd Anna a hyfforddwr menywod Cymru Rhian Wilkinson, roedd y sgwrs yma yn ddiddorol iawn gan roedd Rhian yn rhannu ei phrofiadau am y gwahaniaeth o dyfu lan yng Nghanada o’i gymharu â Chymru. Roedd Rhian wedi rhannu na chafodd hi’r cyfle i chwarae pêl droed yn yr ysgol gan nad oedd gan yr ysgol dîm felly penderfynodd mam Rhian frwydro i gael tîm merched ac roedd yn llwyddiannus erbyn i Rhian adael yr ysgol.

Yn ogystal â Rhian yn siarad roedd 2 panel arall llawn menywod ysbrydoledig. Roedd hi’n fraint gwrando ar brofiadau a chymorth oedd gan y menywod yma i’w rannu. Hefyd cawsom ni gyfle i siarad gyda Heledd yn

ystod y dydd ac roedd hi wedi cynnig cymorth i ni am ein dyfodol a gyrfaoedd posib.